Saturday 15th March, 2025
11am-3pm | Adult workshop | £50
Pyrography- Learn to wood burn with D’Captured
Refreshments provided
Notice: Please be aware that at the point of checkout eventbrite will charge a transaction fee. To avoid this, kindly reach out to the gallery directly and make your booking via phone.
If you are purchasing this workshop as a gift, please email outreach@missiongallery.co.uk to request a downloadable gift voucher.
--
Artist bio:
Declan Stuart (artist name D’Captured) after being homeless in 2022, found a love for pyrography/ wood burning with the help of Crisis. This medium, introduces a process of destruction in order to make something beautiful. D’Captured believes the art form has a mindfulness quality, which he uses as a tool to focus and enjoy the simple creation of lines. D'Captured now guides workshops in exploring pyrography, and uses it to help others with their wellbeing and creativity. D’Captured also creates beautiful custom and commissioned artwork.
Outline:
During this workshop, you’ll be able to create and burn your design on wood with the help of an array of stencils and a little guidance from the instructor- or explore the possibilities and get creative in free hand!
You are very welcome to bring your own design, as there are multiple ways to transfer an original design onto the wood in the session. However this is not essential. Once the design has been transferred, the burning can begin.
You'll have a 30cm circle piece to work with and a 2nd piece of your choosing out of the varying sizes/shapes provided. Each member will be using a dual burning pen, prepped with 2 different tips that allows the user to create a range of lines. However experimentation is encouraged, and there are a variety of different tips and tricks to explore in order to get a wide range of details. Towards the end of the session you will choose whether to seal your pieces or continue with them at a later date.
This workshop is designed to be open to people of all artistic levels. Expert tuition will be provided by the artist, in order to help you come away with a unique artwork that you are truly proud of.
---
High quality artist led workshops are at the heart of what we do here at Mission Gallery. Every ticket purchase contributes towards our Outreach Programme and supports fair compensation for our talented artists.
Due to our venue’s capacity, spaces are limited. If you book onto one of our workshops we would ask you to honour your commitment to attend.
We aim for our workshops to be as accessible as possible, but would ask that you make a donation on the day if you can. Please consider contributing if you are able to support the future workshop and education programmes at Mission Gallery.
For further information please contact Megan Leigh, Learning & Engagement Coordinator, on 01792 652016 or email megan@missiongallery.co.uk
Materials are provided, limited places, booking is essential. Please inform us of any access requirements, allergies or medical conditions.
Access is by one-step entry from pavement level through our main entrance.
The workshops will take place in the gallery and education space located on the first floor of the gallery.
Due to building limitations access to the first floor education space is via steep stairs.
Staff are on hand to provide assistance if needed.
__________________________________________________________________________________________
Dydd Sadwrn 15 Mawrth 2025
11am-3pm | Gweithdy i oedolion | £50
Pyrograffeg- Dewch i ddysgu sut i addurno pren drwy’i losgi gyda D’Captured
Darperir lluniaeth
Nodyn: Pan fyddwch yn dod at y dudalen taliad fe fydd eventbrite yn ychwanegu ffi ychwanegol. I osgoi hwn, cysylltwch gyda'r oriel yn uniongyrchol a bwcio dros y ffôn
Os ydych chi’n prynu'r gweithdy hwn fel anrheg, anfonwch ebost at outreach@missiongallery.co.uk i wneud cais am docyn i'w lawrlwytho.
--
Bywgraffiad yr artist:
Roedd Declan Stuart (enw artist D’Captured) yn ddigartref yn 2022, ond gyda help yr elusen Crisis, bu iddo ganfod ei gariad at byrograffeg / llosgi coed. Mae’r cyfrwng hwn yn golygu bod angen dinistrio rhywbeth er mwyn creu celf. Mae D’Captured o'r farn fod y cyfrwng hwn yn ffordd dda o ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar, ac mae’n mwynhau cael canolbwyntio ar greu llinellau. Erbyn hyn, mae D’Captured yn cynnal gweithdai pyrograffeg er mwyn helpu eraill i ofalu am eu llesiant ac i fod yn greadigol. Mae D’Captured hefyd yn creu gwaith celf i’w werthu ac yn creu darnau comisiwn.
Crynodeb o’r Gweithdy:
Yn ystod y gweithdy hwn, byddwch chi’n cael cyfle i greu a llosgi eich dyluniad ar ddarn o bren. Bydd arweinydd y gweithdy yn eich helpu chi, ac mae croeso i chi ddefnyddio stensiliau - neu gallwch chi fod yn greadigol a gwneud y cyfan â llaw!
Mae croeso i chi ddod â dyluniad penodol gyda chi, mae nifer o wahanol ffyrdd o roi’r dyluniad ar y pren a gallwch chi wneud hyn yn y sesiwn, ond nid yw’n hanfodol. Wedi i'r dyluniad gael ei roi ar y pren, gallwch chi ddechrau llosgi.
Byddwch chi’n cael cylch 30cm i weithio ag o yn gyntaf, ac yna bydd cyfle i chi ddewis eich darn eich hun; bydd siapiau a meintiau amrywiol ar gael. Bydd pob aelod yn cael pensil losgi ddeuol, sydd â dau ben gwahanol er mwyn gallu creu gwahanol fathau o linellau. Rydym ni’n eich annog chi i arbrofi, ac i fod yn greadigol, a byddwn ni’n rhannu cyngor a thriciau gyda chi er mwyn i chi allu creu darnau manwl ac unigryw. Ar ddiwedd y sesiwn byddwch chi’n cael dewis os ydych chi eisiau selio’r darnau neu ddod yn ôl i weithio arnynt yn ddiweddarach.
Mae’r gweithdy hwn wedi ei ddylunio i fod yn addas ar gyfer pobl o bob lefel artistig. Byddwch chi’n derbyn arweiniad arbenigol gan yr artist ac yn gadael â darn o waith celf unigryw y byddwch chi’n falch ohono.
--
Mae gweithdai o ansawdd uchel sy’n cael eu harwain gan artistiaid yn ganolig i’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yma yn Oriel Mission. Mae pob tocyn sy’n cael eu prynu’n cyfrannu at ein Rhaglen Allgymorth, ac mae’n cefnogi iawndal teg i’n hartistiaid talentog.
Oherwydd capasiti ein lleoliad, mae lleoedd yn brin. Os byddwch yn cadw lle yn un o'n gweithdai, gofynnwn i chi gadw at eich ymrwymiad i fod yn bresennol.
Rydym eisiau i’n gweithdai fod mor hygyrch â phosibl ond rydym yn gofyn i chi roi cyfraniad ariannol ar y diwrnod os gallwch chi. Ystyriwch gyfrannu os gallwch chi er mwyn cefnogi’r gweithdai a’r rhaglenni addysg yn Oriel Mission yn y dyfodol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Megan Leigh, Cydlynydd Dysgu ac Ymgysylltu, ar 01792 652016 neu anfonwch e-bost at megan@missiongallery.co.uk
Rhowch wybod i ni am unrhyw ofynion o ran mynediad, alergeddau neu gyflyrau meddygol.
O ran mynediad, mae un gris o’r palmant i lawr ein prif fynedfa.
Cynhelir y gweithdai yn y gofod addysg ar lawr cyntaf yr oriel.
Oherwydd cyfyngiadau’r adeilad, mae mynediad i’r ystafell addysg ar y llawr cyntaf ar risiau serth.
Mae staff wrth law i roi cymorth os oes angen.